Cael gwybod am ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, gofal plant, meithrinfeydd a Chanolfannau Plant Cychwyn Cadarn a gofal y tu allan i'r ysgol yn eich ardal chi. Dod o hyd i adroddiadau Ofsted, gwybodaeth am gyflawniad a chyrhaeddiad ysgolion a'u manylion cyswllt.
Gellir defnyddio'r porwr ysgolion, gofal plant a meithrinfeydd i wneud y canlynol:
Defnyddiwch y ddolen isod a theipiwch eich cod post, eich ysgol neu'ch awdurdod lleol i gael rhestr o ysgolion yn eich ardal. Bydd enw pob ysgol yn ddolen, a bydd y dolenni hyn yn eich arwain at ragor o fanylion am yr ysgol, y feithrinfa neu'r cyfleuster gofal plant dan sylw.